Cymraeg ar-lein Mae pobl o bedwar ban byd yn dysgu Cymraeg ar-lein efo Gwefus. Dewch i gyfarfod rhai ohonyn nhw a chysylltwch am fwy o wybodaeth!
Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LY | 07443 656271 | gwefus.cymru@gmail.com | www.gwefus.com
Dilynwch Ni / Follow us:

Tim Doughty

Tim Doughty ydy fy enw i. Dwi’n byw yn Ft. Lauderdale, Florida, UDA, a dwi’n gweithio yn Miami efo U.S. Legal Support, sy’n cynnig gwasanaethau i gefnogi cwmniau cyfraith. Allan o’r gwaith dwii’n licio bod gartre yn yr ardd, yn tyfu yr holl ffrwythau a phlanhigion sy’n bosib yn y hinsawdd drofannol hon. Does gen i ddim teulu yng Nghymru, ond mi alwodd yr iaith Gymraeg imi lawer o flynyddoedd yn ôl pan oeddwn i yn y brifysgol. Er fy mod i wedi dysgu yn ddigon dyfal dros y blynyddoed diwethaf, roedd fy ngwelliant yn ofnadwy o araf nes imi ddarganfod Llinos ar Skype. Rwan dwi’n dysgu’r iaith lafar, a dwi’n symud ymlaen fel mellten!

Nancy

Nancy dw i. Dwi’n ffermwr lafant (Farmers' http://www.welshlavender.com) Dw i'n byw ym mryniau Canolbarth Cymru i’r gogledd o’r Bannau Brycheiniog. Dw i'n gweithio ar y fferm. Dw i'n licio garddio, darllen, nofio yn fy mhwll! Ro’n i eisiau dysgu "helo", "hwyl", "diolch" a "croeso" ond achos Llinos mae mwy o ddiddordeb gyda fi a dw i'n frwdfrydig i ddysgu mwy. Pam wyt ti'n dysgu Cymraeg dros Skype? Achos dw i'n brysur a mae’n gyfleus.

Deb Chatterton

Fy enw i ydy Deb Chatterton. Dw i'n byw yn Wisconsin, USA. Dw i wastad wedi eisiau siarad iaith arall. Roeddwn i wedi gwneud sawl ymgais i ddysgu ieithoedd eraill efo dim llwyddiant. Ond y tro cyntaf clywais i hi, on i'n gwybod yn syth mai Cymraeg ydy'r iaith oedd wedi bod yn chwarae yn fy mhen ers blynyddoedd. Does neb yn siarad Cymraeg lle dw i'n byw felly, mae dysgu dros y we ydy'r opswin perffaith i mi. Mae hi'n cyfleus iawn. Dw i wrth fy modd yn cael gwersi efo Llinos - mae nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr o ran magu fy hyder i siarad Cymraeg pan dw i'n mynd i Gymru.

Richard Mole

Richard dw i a dw i'n byw yn Stockholm, prifddinas Sweden. Dw i'n dod o Loegr yn wreiddiol. Dw i'n gweithio mewn banc ar hyn o bryd ond yn fuan bydda i'n astudio Saesneg er mwyn dod yn athro. Yn fy amser sbâr dw i'n hoffi teithio, dysgu ieithoedd a chwrdd â ffrindiau. Dw i'n dysgu Cymraeg oherwydd ro'n i'n arfer byw yng Nghymru sawl blwyddyn yn ôl a ches i ddim cyfle i ddysgu Cymraeg y pryd hynny. Mae dysgu Cymraeg dros Skype yn fy ngalluogi i ddysgu'r iaith heb deithio bob tro - ac mae'n gyfle i fi allu siarad yr hen iaith mewn gwlad lle does neb yn siarad Cymraeg. Mae Llinos yn gyfeillgar, amyneddgar ac hyblyg gyda'i dosbarthau ac dw i'n mor hapus mod i wedi darganfod Gwefus.

Steph a Tom

Dyn ni’n byw yn Chicago, yn Unol Daleithau. Mae Steph yn gweithio fel gwyddonydd yn y adran Microbioleg ym Mhrifysgol Chicago. Mae Tom yn wyddonydd hefyd a mae fe’n gweithio yn y Labordy Cenedlaethol Argonne. Dyn ni’n hoffi cerdded yn y cefn wlad, beicio, llygod mawr (mae dwy llygoden fawr gyda ni!) a gweithio. Mae Tom yn hoffi mynd i’r traeth a nofio yn Llyn Michigan a mae Steph yn hoffi cerddoriaeth byw a chwarae gyda chyfrifiaduron. Dyn ni’n dod o Gymru yn wreiddiol (Steph o Gaerdydd, Tom o Abertawe), ac dyn ni’n hoffi dysgu ieithoedd newydd, felly pam ddim y Gymraeg!
Pam dych chi’n dysgu Cymraeg dros Skype? Wel, does dim llawer o bobl yma sy’n siarad Cymraeg. Hefyd dyn ni’n gweithio’n galed a does dim llawer o amser sbar gyda ni, felly mae’r dosbarthiadau dros Skype yn gyfleus iawn i ni. Mae’r dosbarthiadau gyda Llinos yn bendigedig!

Simon Chandler

Simon Chandler ydw i. Rydw i'n byw ym Mhrestwich sydd i'r gogledd o Fanceinion yn Lloegr. Rydw i'n hunangyflogedig ac yn gweithio fel cyfreithiwr ynghanol Manceinion. Rydw i'n mwynhau Cymraeg, Cymru, Almaeneg, darllen, sgwennu, cerddoriaeth, chwarae'r gîtar, canu, gwleidyddiaeth, materion cyfoes a dramau trosedd. Yn y lle cyntaf, cefais fy nenu at Gymru, ei diwylliant a'i hanes ac, yn ychwanegol at yr ymdeimlad cymunedol a chydberchnogaeth sydd ganddi o hyd. Wedyn, ar ôl i fi ddechrau dysgu o ddifrif, yna syrthiais mewn cariad â'r iaith oherwydd ei harddwch hudol. Gan fy mod i'n byw y tu allan i Gymru, roedd hi'n amhosib i fi fynychu unrhyw ddosbarthiadau Cymraeg, ac byddai hi wedi bod yn anodd iawn i ddod o hyd i diwtor sydd yn byw yn fy ardal leol hefyd. Felly, roeddwn i'n falch iawn pan gymeradwywyd Gwefus.

Andrew de Salis

Wel, Andrew de Salis ydw i. Dwi'n byw yn Madrid, ble dwi'n gweithio fel athro. Dwi'n mwynhau theatr, canu gîtar, y cefn gwlad, darllen, pel- droêd a rygbi, dysgu ieithoedd. Mae gen i lawer o rhesymau am dysgu Cymraeg : dwi'n dod o Abergele yn Sir Dinbych yn wreiddiol. Mae dysgu Cymraeg dros Skype yn ffordd cyfforddus a personol o ddysgu efo tiwtor bendigedig ! Gwell hwyr na hwyrach!

Anna Lewis

Anna dw i. Dw i'n byw yn Nhrawsfynydd - pentre bach yn Eryri. Mae fy nghefndir gwaith yn addysg ond, ar hyn o bryd, dw i'n gwirfoddolwraig efo Yr Ysgwrn -cartref bardd enwog, Hedd Wyn. Dw i'n licio hanes a llenyddiaeth a dw i'n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd hefyd. Dw i wedi priodi Cymro ac ers wnaethon ni symud i Gymru (ddwy flynedd yn ol), dw i di bod eisau dysgu Cymraeg. Dw i eisau siarad efo pob lleol a deall mwy am diwylliant yr ardal. Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg rwan achos maen nhw'n mynd i'r ysgol lleol. Hefyd, dw i'n credu bod gallu siarad Cymraeg yn tyfu cyfleon i gael swydd yma. Mae'n mwy hawdd a cyfleus i fi i dysgu dros Skype achos dw i ddim angen treulio amser teithio. Dw i wedi cymeryd cyrsiau non-Skype - efo grwpiau mwy - ond mae'n fanteisiol go-iawn i dysgu 1:1.
Cymraeg ar-lein Mae pobl o bedwar ban byd yn dysgu Cymraeg ar-lein efo Gwefus. Dewch i gyfarfod rhai ohonyn nhw a chysylltwch am fwy o wybodaeth!

Tim Doughty

Tim Doughty ydy fy enw i. Dwi’n byw yn Ft. Lauderdale, Florida, UDA, a dwi’n gweithio yn Miami efo U.S. Legal Support, sy’n cynnig gwasanaethau i gefnogi cwmniau cyfraith. Allan o’r gwaith dwii’n licio bod gartre yn yr ardd, yn tyfu yr holl ffrwythau a phlanhigion sy’n bosib yn y hinsawdd drofannol hon. Does gen i ddim teulu yng Nghymru, ond mi alwodd yr iaith Gymraeg imi lawer o flynyddoedd yn ôl pan oeddwn i yn y brifysgol. Er fy mod i wedi dysgu yn ddigon dyfal dros y blynyddoed diwethaf, roedd fy ngwelliant yn ofnadwy o araf nes imi ddarganfod Llinos ar Skype. Rwan dwi’n dysgu’r iaith lafar, a dwi’n symud ymlaen fel mellten!

Nancy

Nancy dw i. Dwi’n ffermwr lafant (Farmers' http://www.welshlavender.com) Dw i'n byw ym mryniau Canolbarth Cymru i’r gogledd o’r Bannau Brycheiniog. Dw i'n gweithio ar y fferm. Dw i'n licio garddio, darllen, nofio yn fy mhwll! Ro’n i eisiau dysgu "helo", "hwyl", "diolch" a "croeso" ond achos Llinos mae mwy o ddiddordeb gyda fi a dw i'n frwdfrydig i ddysgu mwy. Pam wyt ti'n dysgu Cymraeg dros Skype? Achos dw i'n brysur a mae’n gyfleus.

Deb Chatterton

Fy enw i ydy Deb Chatterton. Dw i'n byw yn Wisconsin, USA. Dw i wastad wedi eisiau siarad iaith arall. Roeddwn i wedi gwneud sawl ymgais i ddysgu ieithoedd eraill efo dim llwyddiant. Ond y tro cyntaf clywais i hi, on i'n gwybod yn syth mai Cymraeg ydy'r iaith oedd wedi bod yn chwarae yn fy mhen ers blynyddoedd. Does neb yn siarad Cymraeg lle dw i'n byw felly, mae dysgu dros y we ydy'r opswin perffaith i mi. Mae hi'n cyfleus iawn. Dw i wrth fy modd yn cael gwersi efo Llinos - mae nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr o ran magu fy hyder i siarad Cymraeg pan dw i'n mynd i Gymru.

Richard Mole

Richard dw i a dw i'n byw yn Stockholm, prifddinas Sweden. Dw i'n dod o Loegr yn wreiddiol. Dw i'n gweithio mewn banc ar hyn o bryd ond yn fuan bydda i'n astudio Saesneg er mwyn dod yn athro. Yn fy amser sbâr dw i'n hoffi teithio, dysgu ieithoedd a chwrdd â ffrindiau. Dw i'n dysgu Cymraeg oherwydd ro'n i'n arfer byw yng Nghymru sawl blwyddyn yn ôl a ches i ddim cyfle i ddysgu Cymraeg y pryd hynny. Mae dysgu Cymraeg dros Skype yn fy ngalluogi i ddysgu'r iaith heb deithio bob tro - ac mae'n gyfle i fi allu siarad yr hen iaith mewn gwlad lle does neb yn siarad Cymraeg. Mae Llinos yn gyfeillgar, amyneddgar ac hyblyg gyda'i dosbarthau ac dw i'n mor hapus mod i wedi darganfod Gwefus.

Steph a Tom

Dyn ni’n byw yn Chicago, yn Unol Daleithau. Mae Steph yn gweithio fel gwyddonydd yn y adran Microbioleg ym Mhrifysgol Chicago. Mae Tom yn wyddonydd hefyd a mae fe’n gweithio yn y Labordy Cenedlaethol Argonne. Dyn ni’n hoffi cerdded yn y cefn wlad, beicio, llygod mawr (mae dwy llygoden fawr gyda ni!) a gweithio. Mae Tom yn hoffi mynd i’r traeth a nofio yn Llyn Michigan a mae Steph yn hoffi cerddoriaeth byw a chwarae gyda chyfrifiaduron. Dyn ni’n dod o Gymru yn wreiddiol (Steph o Gaerdydd, Tom o Abertawe), ac dyn ni’n hoffi dysgu ieithoedd newydd, felly pam ddim y Gymraeg!

Simon Chandler

Simon Chandler ydw i. Rydw i'n byw ym Mhrestwich sydd i'r gogledd o Fanceinion yn Lloegr. Rydw i'n hunangyflogedig ac yn gweithio fel cyfreithiwr ynghanol Manceinion. Rydw i'n mwynhau Cymraeg, Cymru, Almaeneg, darllen, sgwennu, cerddoriaeth, chwarae'r gîtar, canu, gwleidyddiaeth, materion cyfoes a dramau trosedd. Yn y lle cyntaf, cefais fy nenu at Gymru, ei diwylliant a'i hanes ac, yn ychwanegol at yr ymdeimlad cymunedol a chydberchnogaeth sydd ganddi o hyd. Wedyn, ar ôl i fi ddechrau dysgu o ddifrif, yna syrthiais mewn cariad â'r iaith oherwydd ei harddwch hudol. Gan fy mod i'n byw y tu allan i Gymru, roedd hi'n amhosib i fi fynychu unrhyw ddosbarthiadau Cymraeg, ac byddai hi wedi bod yn anodd iawn i ddod o hyd i diwtor sydd yn byw yn fy ardal leol hefyd. Felly, roeddwn i'n falch iawn pan gymeradwywyd Gwefus.

Andrew de Salis

Wel, Andrew de Salis ydw i. Dwi'n byw yn Madrid, ble dwi'n gweithio fel athro. Dwi'n mwynhau theatr, canu gîtar, y cefn gwlad, darllen, pel-droêd a rygbi, dysgu ieithoedd. Mae gen i lawer o rhesymau am dysgu Cymraeg : dwi'n dod o Abergele yn Sir Dinbych yn wreiddiol. Mae dysgu Cymraeg dros Skype yn ffordd cyfforddus a personol o ddysgu efo tiwtor bendigedig ! Gwell hwyr na hwyrach!

Anna Lewis

Anna dw i. Dw i'n byw yn Nhrawsfynydd - pentre bach yn Eryri. Mae fy nghefndir gwaith yn addysg ond, ar hyn o bryd, dw i'n gwirfoddolwraig efo Yr Ysgwrn - cartref bardd enwog, Hedd Wyn. Dw i'n licio hanes a llenyddiaeth a dw i'n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd hefyd. Dw i wedi priodi Cymro ac ers wnaethon ni symud i Gymru (ddwy flynedd yn ol), dw i di bod eisau dysgu Cymraeg. Dw i eisau siarad efo pob lleol a deall mwy am diwylliant yr ardal. Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg rwan achos maen nhw'n mynd i'r ysgol lleol. Hefyd, dw i'n credu bod gallu siarad Cymraeg yn tyfu cyfleon i gael swydd yma. Mae'n mwy hawdd a cyfleus i fi i dysgu dros Skype achos dw i ddim angen treulio amser teithio. Dw i wedi cymeryd cyrsiau non-Skype - efo grwpiau mwy - ond mae'n fanteisiol go-iawn i dysgu 1:1.